Yr hyn rydym yn ei wneud
Byddwn hefyd yn ymdrin ag amrywiaeth eang o waith achos arall sydd a wnelo ef â chynllunio gan gynnwys apeliadau caniatâd adeiladau rhestredig, apeliadau hysbysebion, ac adrodd ar geisiadau cynllunio a alwyd i mewn i benderfynu arnynt gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, neu, yng Nghymru, gan Lywodraeth Cymru.
Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (dolen allanol)
Llywodraeth Cymru (dolen allanol)
Rydym hefyd yn ymdrin ag ystod eang o waith achos arbenigol. Mae hwn yn cynnwys amryw o orchmynion prynu gorfodol; gorchmynion hawl tramwy, apeliadau a cheisiadau am gyfarwyddyd o dan Atodlen 14; caniatâd ar gyfer gwaith ar dir comin; cyfnewid tir sydd a wnelo ef â thiroedd comin neu feysydd trefi/pentrefi; rhai gorchmynion cludiant a ffyrdd penodol; apeliadau a gwrthwynebiadau ynghylch mynediad yng nghefn gwald ac ar yr arfordir; apeliadau gwrychoedd uchel, a mesurau sydd a wnelont ag amddiffyn yr amgylchedd.
Ar ben hyn, rydym yn prosesu ceisiadau am ddyfarnu costau sy’n codi o’n gwaith achos.
Disgrifir y gweithdrefnau ar gyfer y mathau amrywiol o waith achos mewn canllawiau unigol, sydd ar gael ar y Porth Cynllunio. Fodd bynnag, yr egwyddor sylfaenol yw y dylai pob parti gael cyfle teg i gyflwyno ei safbwynt boed hynny’n ysgrifenedig, neu mewn gwrandawiad cyhoeddus.
Porth Cynllunio (dolen allanol)
Newidiadau diweddar
Ar 1 Ebrill 2012, o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011, daeth yr Arolygiaeth Gynllunio’n asiantaeth a oedd yn gyfrifol am weithredu’r broses gynllunio ar gyfer prosiectau seilwaith cenedlaethol eu harwyddocâd (NSIP).
Mae Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd yn ddatblygiadau ar raddfa fawr fel arfer, megis porthladdoedd newydd, gorsafoedd creu ynni (yn cynnwys ffermydd gwynt), a llinellau trosglwyddo trydan, sy’n gofyn am fath o ganiatâd o’r enw ‘caniatâd datblygu’ o dan weithdrefnau a lywodraethir gan Ddeddf Cynllunio 2008 (ac fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011).
