Skip to content

Amrywiaeth a Chydraddoldeb

Amrywiaeth a Chydraddoldeb

Byddwn yn hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch i bob gweithiwr ac unrhyw un sy'n delio gyda'r Arolygiaeth Gynllunio.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi ymrwymo i sicrhau:

  • bod ein holl systemau yn deg, yn agored, yn wrthrychol ac yn weladwy i bawb sydd y tu mewn a’r tu allan i’r sefydliad;
  • bod pobl o gefndiroedd amrywiol yn cael eu trin yn deg.

Byddwn yn hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch i’n holl weithwyr ac i unrhyw un sy’n ymwneud â’r Arolygiaeth Gynllunio. Credwn hefyd ein bod ni i gyd yn gyfrifol am sicrhau bod triniaeth deg ac eglurder yn cael eu rhoi ar waith.  

Mae pob aelod o’r staff yn gallu herio agweddau ac arferion gwahaniaethol.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn gyflogwr Cyfle Cyfartal.

Croesewir ceisiadau am swyddi gan bawb sydd â’r cymwysterau addas beth bynnag fo’u rhywedd, statws priodasol, hil, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, oed, crefydd neu gredo. Mae gweithio’n rhan-amser hefyd yn cael ei ystyried.