Skip to content

Mynediad at wybodaeth

Mynediad at wybodaeth

Mae gan bawb yr hawl i ofyn am wybodaeth sydd wedi’i chofnodi gan sefydliadau sector cyhoeddus o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Ynghyd â’r Ddeddf hon, mae dau ddarn arall o ddeddfwriaeth yn llywodraethu hawl pobl i weld gwybodaeth:

  • Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn rhoi’r hawl i chi gael gwybodaeth am yr amgylchedd y mae awdurdodau cyhoeddus yn ei chadw.
  • Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn diogelu eich gwybodaeth bersonol ac yn sicrhau na chaiff ei chamddefnyddio. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n rhoi’r hawl i chi weld gwybodaeth y mae sefydliadau yn ei chadw amdanoch chi.


Yn yr adran hon, gallwch ddysgu sut i ofyn am wybodaeth y mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ei chadw.

Cyn gwneud cais

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi creu  cynllun cyhoeddiadau  sy’n ein hymrwymo ni i sicrhau bod gwybodaeth ar gael. Bydd hyn hefyd yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth sydd eisoes ar gael ar ein gwefan.

Sylwer: Ystyrir bod yr Arolygiaeth Gynllunio yn Lloegr yn rhan o’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol ac, yng Nghymru, yn rhan o Lywodraeth Cymru. At ddibenion y ddeddfwriaeth uchod, nid oes gennym unrhyw hunaniaeth gyfreithiol ac nid ydym yn awdurdod cyhoeddus yn ein rhinwedd ein hunain. Fodd bynnag, dylech gyflwyno ceisiadau am wybodaeth sydd wedi’i chadw gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn uniongyrchol i ni.